Os ydych chi'n ystyried astudio cymhwyster adeiladu neu gymhwyster sy'n gysylltiedig ag adeiladu, efallai eich bod yn meddwl bod angen Lefel A arnoch mewn mathemateg neu ffiseg. Fodd bynnag, mae nifer o wahanol swyddi yn y diwydiant adeiladu, a chynifer o wahanol lwybrau i gyrraedd yno.

Rydym yn siarad â dwy fenyw a ddefnyddiodd eu lefel A i ddilyn llwybr gwahanol i’r maes adeiladu.

Claire Wallbridge –Swyddog Hyfforddiant, Grŵp Hyfforddi’r Diwydiant Cerrig Naturiol

Claire Wallbridge a’r tîm yn Llundain
Claire Wallbridge gyda’r tîm ar y safle

Claire Wallbridge yn y canol yn y ddau lun

Dechrau arni yn y maes adeiladu

Cefais fy ngeni i deulu o seiri maen, ac roedd fy ngŵr yn adeiladwr gyda’i gwmni adeiladu ei hun, felly mae’r maes adeiladu wedi bod o’m cwmpas erioed.

Cododd cyfle i mi ymuno â’r sector adeiladu 13 blynedd yn ôl fel rheolwr hyfforddiant (sydd weithiau’n cael ei alw’n rheolwr dysgu a datblygu). Mae’n sector y cefais fy magu ynddi, felly roeddwn i’n gwybod ei fod yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu.

Ar ôl astudio Lefel A mewn gwleidyddiaeth a llenyddiaeth

Cefais fy Lefel A mewn Hanes Gwleidyddol Rwsia a Phrydain a Llenyddiaeth Saesneg.

Ar ôl graddio fel athro cymwysedig, fe wnes i lawer o ddatblygiad proffesiynol parhaus - y cyfan yn ymwneud â hyfforddi.

Rydw i wedi astudio popeth o ddeall cadwraeth a threftadaeth, i hyfforddiant iechyd a diogelwch safonol.

Ar ôl dod i’r maes adeiladu gyda gradd ôl-raddedig mewn hyfforddiant athrawon, mae fy hyfforddiant yn parhau.

Fy ngwaith i fel rheolwr hyfforddiant yw nodi pa sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar fy nghontractwyr a datblygu hyfforddiant ar eu cyfer.

Bod yn rhan o bopeth sy’n digwydd yn y byd

Rydw i wrth fy modd ag amrywiaeth y maes adeiladu a’r bobl sy’n dangos cymaint o frwdfrydedd drosto.


Mae adeiladu yn rhan o bopeth sy’n digwydd yn y byd – o brosiectau seilwaith i adeiladu ysbytai ar gyfer y dyfodol.

Gall pobl ddweud, ‘Mi wnes i weithio ar hynny’. Mae’n wych bod yn rhan o ymdrech tîm a rhywbeth llawer mwy.

Mae rôl i chi yn y maes adeiladu

Fy rôl fel cennad adeiladu yw dangos bod llawer o gyfleoedd a rolau i bawb.

Os ydych chi'n dymuno gweithio mewn amgylchedd strwythuredig, neu fod yn artistig, yn ddeinamig, neu os ydych chi'n hoffi amgylchedd caeth, strwythuredig - mae rôl ym maes adeiladu sy'n addas i chi - beth bynnag sy’n well gennych chi. Mae’n sector sy’n symud wrth i’r boblogaeth symud.

Gallwch wneud hyn. Rwy’n gweithio i ddangos fy angerdd i bobl ifanc. Ac mae pobl yn dweud bod angerdd yn heintus.

Os nad ydych yn cael y cymwysterau Lefel A neu TGAU yr oeddech am eu cael

Nid dyna ddiwedd y byd. Os na fyddwch yn llwyddo yn eich TGAU, nid yw’n golygu eich bod wedi colli. Mae sawl llwybr y gallwch eu dilyn - gall prentisiaethau fod yn llwybr anhygoel.

Gallwch chi ddechrau arni yn y maes adeiladu unrhyw bryd.

Does dim ots beth oedd eich canlyniadau Lefel A. Yr hyn sy’n bwysig yw eich ymrwymiad a’ch angerdd.


Mae pobl yn ymuno â’r maes yn eu 30au a’u 40au. Mae cymaint o rolau iddyn nhw o hyd. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os na fyddwch chi’n cael y graddau sydd angen. Dydy hi byth yn rhy hwyr.

Sarra Hawes - Cyfarwyddwr, Hawes Building

Sarra Hawes yn Stad Loughborough yn Llundain
Sarra Hawes yn Stad Loughborough yn Llundain

Sarra Hawes ar y dde yn y llun cyntaf ac ar y safle

Y cymwysterau Lefel A a ddaeth a mi i’r byd adeiladu

Fe wnes i adael yr ysgol gyda lefelau O (sy’n cyfateb i TGAU) mewn Saesneg a lluniadu technegol.

Yna, fe wnes i gemeg a mathemateg yn y coleg ac roedd hynny’n ddigon i gael diploma cenedlaethol cyffredin (OND) – sy’n cyfateb i gymhwyster Lefel A – mewn graffeg dechnegol pan oeddwn i’n 18 oed.

Rhoddodd y graffeg a’r darlunio technegol yn sgiliau oedd eu hangen arnaf i gael fy swydd gyntaf yn y maes adeiladu.

Ennill cymwysterau yn y gwaith

Ar ôl fy OND, fe wnes i gais am swydd fel hyfforddai rheoli mewn cwmni adeiladu lleol. Tra’n gweithio, astudiais yn rhan-amser am 2 flynedd a chael tystysgrif genedlaethol uwch mewn astudiaethau adeiladu.

Er bod gen i’r swydd, mae’n debyg ei fod yn ddibynnol ar fy mod yn ennill y cymhwyster astudiaethau adeiladu. At ei gilydd, treuliais 6 mlynedd yn astudio.

Mae pob diwrnod yn wahanol

Gallech fod yn gweithio gyda phobl hollol wahanol un diwrnod, neu mewn lleoliad cwbl newydd. Mae’n heriol ac mae’n rhaid i chi ddatrys problemau bob amser.

Mae’n wych gweithio yn yr awyr agored a dydych chi byth yn sownd mewn un lle.

Ysbrydoli pobl ifanc

Drwy siarad â phobl ifanc, rwy’n meddwl fy mod i wir yn agor eu llygaid. Rydw i’n dweud wrthyn nhw ei bod hi’n hawdd i chi fynd o un rôl i’r llall. Gallwch ddechrau arni fel crefftwr a mynd ymlaen i fod yn rheolwr.


Mae cymaint o gyfleoedd gwych i fenywod ifanc. Rwy’n ceisio annog rhieni i weld y cyfle a’r amrywiaeth sydd ar gael drwy gael gyrfa ym maes adeiladu.

Dechrau arni yn y maes adeiladu ar ôl eich Lefel A

Does dim rhaid i chi ddod atom gyda'r holl gymwysterau - gallwch weithio ac astudio'n rhan-amser.

Y cwbl y mae angen i chi ei wneud yw dangos menter. Gallwch:

  • Mynd i ffeiriau masnach ac arddangosfeydd a siarad â phobl yn y maes adeiladu
  • Mynd ar Instagram a dilyn pobl sy’n gwneud pethau mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw
  • Tynnwch luniau o bethau sy’n denu’ch llygad – boed hynny’n waith coed gartref, modelau rydych chi wedi’u creu, neu waith adeiladu rydych chi wedi’i wneud i helpu teulu neu ffrindiau. Ewch â’r rheini at gyflogwr a dywedwch wrthynt pam fod gennych chi ddiddordeb. 

Cysylltwch â chwmnïau adeiladu a dweud wrthynt beth rydych chi  am ei wneud. Rydym bob amser yn chwilio am bobl frwdfrydig a phenderfynol.

Dod o hyd i yrfa yn y diwydiant adeiladu

Dysgwch pa swyddi adeiladu sy’n addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau drwy ddefnyddio ein Chwilotwr Gyrfa.

Rhowch gynnig ar ein Chwilotwr Gyrfa

Cychwyn arni gyda hyfforddeiaeth

Os ydych chi’n chwilio am swydd neu brentisiaeth ond nad oes gennych chi’r sgiliau na’r profiad cywir eto, gallai hyfforddeiaeth helpu.

Dysgu mwy am hyfforddeiaethau