Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer symud i yrfa ym maes adeiladu

Mae sawl ffordd y gallwch ymuno â'r diwydiant adeiladu. Gallwch gael swyddi fel graddedigion, mynd yn syth o’r ysgol i brentisiaeth, gwneud cais am rôl lefel mynediad, neu ddechrau gyda rhywfaint o brofiad gwaith mewn rôl rydych yn teimlo y gallai fod yn addas i chi.

Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer symud i yrfa yn y diwydiant adeiladu.

Pam dewis swydd yn y diwydiant adeiladu?

Amrywiaeth. Mae amrywiaeth eang o swyddi yn y diwydiant adeiladu, sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i ddod o hyd i un sy’n addas i’ch sgiliau a’ch dyheadau. O rolau rheoli i rolau addysgol, gallwch symud i’r ochr neu i fyny er mwyn cadw eich llwybr gyrfa yn ffres.

Galw. Bydd galw o hyd am weithwyr adeiladu, boed dan gontract neu mewn rôl barhaol. Mae prosiectau’n dechrau drwy’r amser, a gallwch ddefnyddio eich sgiliau blaenorol i adeiladu ar eich profiad ar draws pob un rydych chi’n ymwneud ag ef, ni waeth pa rôl rydych chi’n ei chwarae.

Datblygu sgiliau tîm. Yn aml mae gwaith tîm yn allweddol i unrhyw brosiect adeiladu, sy’n golygu y byddwch yn meithrin perthnasoedd ac yn datblygu eich sgiliau rhyngbersonol drwy gydol eich gyrfa ym maes adeiladu. Byddwch yn edrych yn ôl â balchder ar brosiectau rydych chi wedi’u cyflawni fel tîm.

Gwneud gwahaniaeth. Bydd gyrfa yn y maes adeiladu yn gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned leol ac i’r rhai rydych chi’n cwblhau prosiectau ar eu cyfer. Gallwch chi fod yn rhan o’r gwaith o ddylunio, cynllunio a datblygu prosiectau a all wneud gwahaniaeth go iawn.

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer symud i yrfa ym maes adeiladu

Awgrymiadau defnyddiol

Ymchwil

Edrychwch ar y math o rôl adeiladu y gallech chi ei mwynhau. Gallai crefftau medrus fel gwaith coed neu beirianneg ymddangos yn fwy deniadol i chi na gwaith rheoli prosiectau neu waith dylunio. Bydd gwybod beth sydd ar gael yn y lle cyntaf yn eich helpu i gyfyngu ar eich dewisiadau yn nes ymlaen.

Gwirio sgiliau

Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych chi’n barod. Hyd yn oed os mai nawr rydych yn gadael yr ysgol, pa bynciau ydych chi wedi rhagori ynddynt ac y gallech eu defnyddio i weithio ym maes adeiladu? Os ydych chi’n newid gyrfa, beth hoffech chi ei drosglwyddo o’ch swydd flaenorol i’ch swydd newydd?

Profiad gwaith

Ceisiwch gael rhywfaint o brofiad o’r rôl neu’r rolau rydych chi’n credu fyddai’n addas i chi. Gall cysgodi rhywun a gwylio sut mae’n treulio diwrnod arferol eich ysbrydoli neu ddangos lle gallech chi fod angen rhywfaint o hyfforddiant neu gefnogaeth.

Rhwydweithio

Ymunwch â fforymau ar-lein, ewch i ddigwyddiadau (fel Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau), a dod i adnabod pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Nid yn unig rydych yn bod yn rhagweithiol, ond efallai y byddwch yn dysgu rhywbeth nad oeddech yn ei wybod am rôl neu’n cwrdd â rhywun a allai eich helpu yn nes ymlaen.

Chwilio am gwrs neu brentisiaeth

Os ydych chi angen neu eisiau hyfforddiant ffurfiol ar gyfer y swydd rydych chi’n chwilio amdani yn y diwydiant adeiladu, dewch o hyd i un sy’n addas i chi. Mae cyrsiau’n amrywio gymaint â’r rolau maen nhw’n eich paratoi ar eu cyfer, o ran hyd a dyfnder. Os ydych chi’n poeni am dalu am hyfforddiant, edrychwch ar yr hyn y gallwch gael cyllid ar ei gyfer.

Dechrau arni

CITB yw bwrdd hyfforddi’r diwydiant adeiladu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Dan nawdd yr Adran Addysg, gallwn eich helpu i symud i yrfa ym maes adeiladu.

Os ydych chi’n chwilio am swydd newydd, angen gyrfa newydd, neu eisiau gwybod mwy am unrhyw hyfforddiant y gallwn ei gynnig, cysylltwch â ni.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Cymrwch sbec ar ein prentisiaethau neu gyrsiau a chymwysterau CITB, neu darllenwch ein blogiau eraill i gael ysbrydoliaeth.