A cathedral overlooking a river 

Beth yw’r ffynhonnell orau ar gyfer prentisiaethau yng Nghaerwrangon? Lle da i ddechrau chwilio yw Talentview.

Mae gan y ddinas â’i heglwys gadeiriol yng ngorllewin canolbarth Lloegr hanes cyfoethog, ond i unrhyw un sy’n byw yng Nghaerwrangon neu gerllaw, mae amrywiaeth drawiadol o brentisiaethau ar gael hefyd. 

Beth yw prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn swydd gyda hyfforddiant ac mae ar gyfer unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn. Yn ystod prentisiaeth, byddwch yn gweithio gyda staff profiadol ac yn ennill cymwysterau drwy ddysgu’n ymarferol ac yn academaidd. Bydd eich cyflogwr yn rhoi tasgau i chi eu cyflawni, a bydd darparwr hyfforddiant yn rhoi’r sgiliau damcaniaethol i chi gyflawni’r tasgau hynny.

Fel prentis, byddwch yn cael tâl wrth ddysgu, er mwyn i chi allu ennill cymhwyster sy’n benodol i’r diwydiant heb fod angen benthyciad myfyriwr arnoch. Byddwch yn cael eich cyflogi’n amser llawn (rhwng 30 a 40 awr yr wythnos fel arfer), sy’n cynnwys amser a dreulir gyda’ch darparwr hyfforddiant.

Pwysigrwydd prentisiaethau i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol

I unrhyw un sydd ar fin gadael yr ysgol, mae prentisiaeth yn ddewis arall delfrydol yn lle Safon Uwch neu fynd i’r brifysgol. Os nad ydych chi’n hoffi’r syniad o astudio’n amser llawn, mae prentisiaeth yn mynd â chi i fyd gwaith ac yn eich galluogi i ennill sgiliau ymarferol mewn swydd. Ar ben hynny, byddwch yn ennill cyflog ar yr un pryd. Erbyn diwedd y brentisiaeth, byddwch yn cael cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac a fydd yn rhoi dechrau da i chi ar eich dewis o yrfa.

Mathau o brentisiaethau yn Swydd Gaerwrangon

Diwydiannau sy’n cynnig prentisiaethau

Ar wahân i Lea a Perrins, sydd wedi ei leoli yng Nghaerwrangon o hyd, mae prif ddiwydiannau’r ddinas yn cynnwys gweithgynhyrchu ac adeiladu offer peiriannau. Mae Worcester Bosch, sy’n gwneud gwresogyddion nwy a chynnyrch ynni adnewyddadwy, yn cyflogi dros 2,000 o bobl yn y ddinas. Mae cynllun Prentisiaeth Cecil Duckworth y cwmni yn cynnig cyfle i brentisiaid hyfforddi ar gyfer cymhwyster peirianneg Lefel 3.

Cynlluniau prentisiaeth poblogaidd yn Swydd Gaerwrangon

Mae hyfforddiant yn y gwaith hefyd yn cael ei ddarparu gan sefydliadau fel Coleg Heart of Worcestershire (HOW), gyda champysau yng Nghaerwrangon, Redditch, Malvern a Bromsgrove. Mae HOW yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau prentisiaeth, o lefelau canolraddol i uwch, mewn gyrfaoedd fel lletygarwch, cyllid a gosod brics. I'r rhai sydd am fynd â'u hyfforddiant sgiliau ymhellach, cynigir nifer cynyddol o radd-brentisiaethau gan Brifysgol Caerwrangon.

Pam gwneud prentisiaeth yng Nghaerwrangon?

Os ydych chi’n byw yng Nghaerwrangon a’r cyffiniau ac eisiau dechrau gyrfa newydd wrth ddysgu ar yr un pryd, gallai prentisiaethau fod yn ateb delfrydol.

Cyfleoedd datblygu gyrfa

Mae prentisiaethau’n cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob oed ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar ddiwedd pob lefel prentisiaeth yn agor llwybrau at ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol, neu ddilyn rhagor o brentisiaethau fel prentisiaethau uwch neu radd-brentisiaethau.  

Ennill cyflog wrth ddysgu

Un o’r pethau gorau am brentisiaethau yw’r cyfle i ennill cyflog ar yr un pryd ag astudio a hyfforddi. Mae prentisiaid yn ennill yr isafswm cyflog os ydynt ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth neu o dan 18 oed, yna mae eu cyflogau’n codi ar oedrannau penodol hyd at 23 oed. Rhagor o wybodaeth am gyflogau prentisiaid.

Mynediad at fentora a hyfforddiant yn y gwaith

Mae gan bob prentis fentor i roi cymorth ac arweiniad iddynt drwy eu rhaglen brentisiaeth. Mae hyn yn ychwanegol at reolwr llinell. Bydd prentisiaid yn cael mynediad at gyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’u mentor, adolygiadau perfformiad, a chymorth iechyd meddwl a llesiant. Mae prentisiaid hefyd yn cael rhaglen strwythuredig o hyfforddiant yn y gwaith, sy’n ymwneud â swydd benodol.

Sut i ddod o hyd i brentisiaeth yn y sir

Camau i ddod o hyd i brentisiaethau addas

Mae sawl ffordd o ddod o hyd i gyflogwyr yn Swydd Gaerwrangon sy’n cynnig prentisiaethau. Gallwch ddefnyddio gwefannau fel Talentview, gwneud cais yn uniongyrchol i gyflogwyr, cysylltu â cholegau lleol neu ofyn i ffrindiau neu aelodau o’r teulu a ydynt yn gwybod am brentisiaethau sydd ar gael mewn cwmnïau. 

Awgrymiadau ar gyfer gwneud cais am brentisiaethau

Os ydych chi’n gwneud cais am brentisiaethau, mae bob amser yn syniad da: 

Archwilio cyfleoedd prentisiaeth yn Swydd Gaerwrangon

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector adeiladu, mae prentisiaethau ledled Swydd Gaerwrangon yn rhoi cyfle i chi ddechrau adeiladu eich gyrfa. Chwiliwch ar Talentview ac fe ddewch chi o hyd i gyfleoedd ym meysydd Mesur Meintiau, Peirianneg Sifil, Gosod Dur, Toi a Gwaith Plymwr, ymysg eraill.