Os ydych chi erioed wedi gwylio ‘Digging for Britain’ neu ‘Time Team’, byddwch yn gwybod bod archeolegwyr yn gwneud gwaith pwysig. Gall y darganfyddiadau a wnânt fod o arwyddocâd cenedlaethol neu ryngwladol, gan ddatgelu arteffactau o harddwch mawr neu dystiolaeth o aneddiadau arwyddocaol. Ar gyfer rhai canfyddiadau, gall archeolegwyr hyd yn oed newid ein barn am wareiddiad dynol yn y gorffennol.

Gall archaeoleg fod yn yrfa gyffrous, ac mae angen archeolegwyr medrus a gwybodus ar y diwydiant adeiladu. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ddatblygiadau adeiladu gynnal arolygon archeolegol cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, er mwyn sicrhau bod unrhyw asedau treftadaeth ar y tir yn cael eu cadw a’u dogfennu. Mae 95% o’r holl ddarganfyddiadau archeolegol newydd yn y DU yn dod drwy ddatblygu tir masnachol, felly mae digon o waith ar gael.

 

Beth yw prentisiaethau archaeoleg?

Mae prentisiaethau archaeoleg yn debyg i unrhyw brentisiaeth adeiladu arall. Mae prentisiaid yn astudio am 20% o’u hamser, ac maent yn ennill cyflog wrth gael profiad yn y gwaith ac ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y corff proffesiynol, Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (ClfA).

Mae chwe safon prentisiaeth treftadaeth ar gyfer archaeoleg wedi’u datblygu, yn amrywio o Dechnegydd Archeoleg Lefel 3 i Arbenigwr Archeolegol Lefel 7.

 

Sut mae prentisiaethau archaeoleg yn gweithio?

Megis dechrau y mae prentisiaethau archaeoleg, a dim ond yn y blynyddoedd diwethaf y mae’r safonau wedi’u creu. Ond maent eisoes wedi’u hen sefydlu ac yn cael eu parchu yn y sector treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol.

Pa mor hir yw prentisiaeth archaeoleg?

Mae’r rhaglen Technegydd Archaeoleg Lefel 3 yn cymryd rhwng 12-18 mis i’w chwblhau. Mae prentisiaeth Cynorthwyydd Cyngor Amgylchedd Hanesyddol Lefel 4 yn para 24 mis, tra bod y rhaglen Arbenigwr Archeolegol Lefel 7 yn cymryd rhwng 36-54 mis.

Faint ydw i'n ei ennill fel prentis archeolegol?

Mae’n rhaid talu’r isafswm o leiaf i brentisiaid, ond gall eich cyflog fod yn uwch na hyn. Mae’n dibynnu ar bolisi’r cwmni neu’r sefydliad unigol rydych yn brentis iddo.

 

Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael?

Yn Lloegr, mae amrywiaeth o brentisiaethau treftadaeth ar gael ar hyn o bryd. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u cynllunio gan gyflogwyr blaenllaw ym maes archaeoleg a chadwraeth ac yn sicrhau eu bod yn datblygu sgiliau mewn prentisiaid sydd eu hangen ar gyflogwyr. 

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw brentisiaethau Lefel 3 mewn archaeoleg yng Nghymru. Fodd bynnag, mae prentisiaethau mewn meysydd tebyg, gan gynnwys rheoli treftadaeth ddiwylliannol, rheoli prosiectau a thirfesur. Cynigir archeolegol arbenigol gan Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. 

Mae fframwaith Prentisiaeth fodern ar gyfer archaeoleg yn cael ei ddatblygu yn yr Alban ond nid y war gael eto. Mae amrywiaeth o brentisiaethau mewn crefftau treftadaeth ac adeiladu, fel saer maen treftadaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu yn ystod prentisiaeth archaeoleg?

Bydd prentisiaid ar y rhaglen Technegydd Archaeoleg Lefel 3 yn dysgu ystod gynhwysfawr o sgiliau a thechnegau fel eu bod yn gallu darparu cymorth yn ystod cloddiadau archeolegol, arolygon a dadansoddiad o ddarganfyddiadau a safleoedd erbyn diwedd y brentisiaeth.

Bydd prentisiaid yn dysgu sut i:

  • Nodi safleoedd posibl i’w hastudio gan ddefnyddio awyrluniau, cerdded maes a thirfesur
  • Cymryd rhan mewn cloddiadau gan ddefnyddio offer arbenigol
  • Cofnodi darganfyddiadau a safleoedd gan ddefnyddio ffotograffiaeth, nodiadau manwl a lluniadau
  • Adnabod, dosbarthu, glanhau a chadw darganfyddiadau
  • Defnyddio dyddio carbon a dulliau eraill o wyddor archeolegol
  • Cynhyrchu efelychiadau cyfrifiadurol o safleoedd neu arteffactau
  • Gwirio ceisiadau cynllunio a nodi effaith datblygiad ar safleoedd archeolegol
  • Dosbarthu, arddangos a gofalu am arteffactau mewn amgueddfa.

 

Sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen i fod yn archeolegydd dan brentisiaeth

Yn ddelfrydol dylai technegydd archeolegol feddu ar y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o’r sgiliau canlynol:

  • Meddwl dadansoddol
  • Rhifedd da
  • Galluoedd trefnu rhagorol
  • Diddordeb a gwybodaeth am hanes, daearyddiaeth, cymdeithaseg ac anthropoleg
  • Sylw uchel i fanylion
  • Sgiliau llafar a chyfathrebu rhagorol
  • Yn dda gyda'u dwylo – mae digon o sgrapio, brwsio a chloddio gofalus i'w wneud!
  • Llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol a'r gallu i ddefnyddio dyfais llaw.

O ran cymwysterau, mae prentisiaethau Lefel 3 fel arfer yn gofyn am bump TGAU neu fwy graddau 9-4 (A*-C), er wrth i chi symud i fyny'r lefelau prentisiaeth mae gofynion mynediad yn dod yn fwy beichus.

Rhagolygon ar gyfer y dyfodol a dilyniant gyrfa

Mae gan brentisiaid archaeoleg cymwys ddigon o ddewisiadau a chyfleoedd o’u blaenau. Gyda phrentisiaeth technegydd Lefel 3, gallech weithio fel cynorthwyydd safle neu ddod o hyd i dechnegydd yn cefnogi uwch archeolegydd mewn cloddiad mawr.

Wrth i chi adeiladu ar eich profiad archeolegol, gallech ennill cymwysterau pellach, fel trwy raglen llwybrau proffesiynol CIfA, neu ddilyn prentisiaethau lefel uwch. Yna bydd cyfleoedd i symud ymlaen i rolau uwch, i ddod yn arbenigwr mewn maes penodol o archaeoleg, neu i weithio yn y byd academaidd.

Sut i wneud cais am brentisiaeth archaeoleg

Fel y dywedasom, mae prentisiaethau archaeoleg yn eithaf newydd, a gall cyrsiau fod ychydig yn denau ar lawr gwlad. Ond os gwnewch rywfaint o gloddio, efallai y byddwch yn gallu dod o hyd i brentisiaeth addas. Ceisiwch wneud cais i sefydliadau fel Historic England ac English Heritage, awdurdodau lleol a chwmnïau adeiladu. Edrychwch ar Wasanaeth Gwybodaeth Swyddi CIfA, neu defnyddiwch y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i chwilio am swyddi gwag.

Canfod mwy am rôl archeolegydd

Yn Am Adeiladu mae gennym ddigonedd o adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu a yw archaeoleg yn addas i chi.

Canfod mwy am brentisiaethau mewn adeiladu

Meddwl gwneud cais am brentisiaeth archaeoleg ond ddim yn siŵr ble i ddechrau arni? Mae gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddecrhau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddisgwyliadau cyflog, gofynion mynediad neu unrhyw beth yn ymwneud â phrentisiaethau archaeoleg mewn adeiladu.

Prentisiaethau archaeoleg yn Talentview

Dewch o hyd i gyfleoedd archeolegol ym maes adeiladu yn Talentview.