Ym mis Medi, dechreuodd Craig Ramsay raglen Prentisiaeth i Raddedigion mewn Rheolaeth Adeiladu trwy ei gyflogwr, P&M Sinclair. Yma mae’n esbonio uchafbwyntiau allweddol y rhaglen a sut mae’r profiad wedi llunio ei obeithion a’i nodau gyrfa yn y dyfodol.

Sut daethoch chi'n brentis graddedig?

Gadewais yr ysgol a dechrau prentisiaeth mewn gosod brics. Ar ôl cwblhau hyn, cefais gynnig y cyfle i astudio ymhellach a chwblhau fy nghrefft uwch mewn gosod brics. Gweithiais fel gweithiwr gosod brics am dair blynedd, gan weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau a chael profiad amhrisiadwy.

Cynigiodd fy nghwmni'r cyfle i ymgymryd â chyfrifoldebau goruchwyliwr ac ymgymerais â hyfforddiant i'm paratoi ar gyfer y rôl hon. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cefais gynnig datblygiad pellach a chamu i reoli prosiectau bach, ac unwaith eto cefais hyfforddiant pellach a gydnabyddir gan y diwydiant. Roeddwn wrth fy modd pan gefais y cyfle i ymgymryd â phrentisiaeth i raddedigion.

Mae cwblhau cymhwyster yn seiliedig ar waith yn cyd-fynd yn berffaith â fy arddull dysgu, ac yn golygu y gallaf barhau i weithio a chael profiad gwerthfawr, ochr yn ochr â chymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant.

Beth oedd manteision y rhaglen Prentisiaethau i Raddedigion a’ch denodd fwyaf?

Mae cymwysterau wedi bod yn bwysig i fy swydd ond cael profiad yn y diwydiant adeiladu fu'r rhan fwyaf buddiol o'm gyrfa o bell ffordd.

Mae bod ar brosiectau gwahanol a gweithio gyda gwahanol bobl wedi adeiladu fy mhrofiad helaeth o adeiladu erbyn hyn, a dyma lle rwyf wedi dysgu fy sgiliau.

Cefais fy nenu gan yr hyblygrwydd y mae’r rhaglen Prentisiaethau Graddedig yn ei gynnig, a’r cyfleoedd a gyflwynwyd ganddi i barhau i adeiladu fy addysg a fy mhrofiad yn y diwydiant.

Beth ydych chi'n ei wneud nawr a sut ydych chi'n rheoli'r heriau o ddysgu sgiliau newydd wrth astudio tuag at radd?

Wrth i mi symud ymlaen i lefel goruchwyliwr, rwyf wedi dod i ddeall cymhlethdod adeiladu. Nid oedd gennyf unrhyw syniad faint sy’n mynd ymlaen cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle mewn gwirionedd, a faint o gynllunio manwl sydd ei angen. Wrth i mi ddechrau rheoli gwaith, cefais y cyfle i werthfawrogi sut mae rolau swyddi eraill yn rhyngweithio ac yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod prosiectau'n mynd o'r dechrau i'r diwedd.

Rwy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd a'r her a ddaw yn sgil hyn. Ar ôl gallu cymhwyso’r sgiliau newydd rwyf  wedi’u dysgu drwy astudio ar y rhaglen Prentis Graddedig, rwyf wedi dechrau gweld y cyfleoedd ehangach y bydd hyn yn eu cynnig i mi, wrth i mi feddwl tuag at fy natblygiad gyrfa yn y dyfodol.

Beth yw eich cyflawniad rydych fwyaf balch ohono hyd yn hyn?

Rwy'n meddwl mai fy nghyflawniad yr wyf fwyaf balch ohono hyd yn hyn yw gallu cefnogi prentisiaid i gwblhau eu hyfforddiant. Rwy'n mwynhau eu helpu wrth iddynt ddysgu ac adeiladu eu sgiliau. Mae cael y cyfle i helpu prentisiaid i ennill cymwysterau a phrofiad yn rhan werthfawr iawn o fy swydd. Mae datblygu amgylchedd dysgu a gweithio cadarnhaol o fudd i'r cwmni cyfan, wrth i ni hyfforddi cenhedlaeth nesaf ein gweithlu.

Beth yw eich gobeithion a’ch nodau gyrfa yn y dyfodol ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth i Raddedigion?

Unwaith y byddaf wedi cwblhau'r Rhaglen Prentis Graddedig, rwy'n gobeithio symud ymlaen i rôl Rheolwr Contractau. Ar ôl cael y cyfle i ennill profiad yn y diwydiant ochr yn ochr â chymhwyster academaidd, rwyf hefyd yn gobeithio gwneud cais am aelodaeth o’r Sefydliad Adeiladu Siartredig. Ar ôl cael profiad ochr yn ochr ag astudio, gobeithio y bydd hyn yn cyflymu'r broses i mi!

Allwch chi amlinellu pa gefnogaeth a/neu anogaeth y mae eich cyflogwr wedi'i roi i chi yn eich taith Prentis Graddedig?

Mae fy nghwmni’n canolbwyntio’n fawr ar hyfforddiant a datblygu eu staff, ac rwy’n ffodus i gael fy adnabod fel rhywun sydd â’r potensial i ymgymryd â’r Rhaglen Prentis Graddedig. Mae gen i ddau fentor yn y gweithle, y ddau â gwahanol gefndiroedd yn y diwydiant adeiladu, sy'n gefnogol iawn yn fy astudiaethau ac yn helpu i fy annog ar fy nhaith.

Rhowch ddyfyniad i grynhoi eich profiad cyffredinol o'r rhaglen Prentisiaethau Graddedig:

Ym maes adeiladu, mae profiad gwaith yn amhrisiadwy. Mae bod yn Brentis Graddedig wedi rhoi’r cyfle i mi barhau i weithio a chael profiad gwerthfawr, ochr yn ochr â chwblhau cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant.