Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg, byddwn yn clywed gan Tolu Egberongbe i gael cipolwg ar weithio yn y diwydiant peirianneg.

Nid gyrfa ym maes adeiladu oedd fy mwriad i erioed. Fodd bynnag, wrth astudio yn y coleg, sylweddolais fod gennyf sgiliau mewn modelu a dylunio 3D. Dechreuais edrych ar gyfleoedd am yrfa mewn modelu 3D, ac arweiniodd hynny at yrfa ym maes adeiladu. Er bod gennyf ddiddordeb mewn modelu 3D, mae’n anodd iawn dod o hyd i lwybr uniongyrchol i’r maes am ei bod yn rôl mor arbenigol.

Dywedodd Ove Arup “Nid gwyddoniaeth mo peirianneg. Mae gwyddoniaeth yn astudio digwyddiadau penodol i ddod o hyd i gyfreithiau cyffredinol. Mae dylunio peirianneg yn defnyddio’r cyfreithiau hynny i ddatrys problemau ymarferol penodol. Yn hyn o beth, mae’n perthyn yn agosach i gelf a chrefft” – mae’r dyfyniad hwn yn egluro’n berffaith sut roeddwn i’n teimlo am ddylunio peirianneg. I mi, roedd yn golygu mwy na dim ond cynhyrchu pethau y gallai pobl eu gweld neu eu defnyddio. Yr oedd yn ymwneud yn fwy â deall a gwella’r ffordd mae cynnyrch presennol yn gweithio.

Fel y dywedodd Steve Jobs unwaith “Mae dyluniad yn fwy na sut mae rhywbeth yn edrych neu'n teimlo. Dyluniad yw sut mae’n gweithio.” Dal i dyfu wnaeth fy awydd am fwy o wybodaeth am ddylunio a sut mae peirianwyr yn effeithio ar y byd. I’m helpu, chwiliais am brentisiaethau ym maes adeiladu, gan fod y galw am fodelwyr 3D yn y sector hwn yn fwy nag erioed. Fodd bynnag, oherwydd ei bod yn sgil mor arbenigol, yr unig ffordd o fod yn fodelwr ym maes adeiladu oedd drwy fod yn beiriannwr sifil gyda gradd-brentisiaeth atebion digidol. Roedd dod o hyd i brentisiaeth o’r fath yn eithriadol o anodd, gan nad yw pob cwmni’n cynnig peirianneg sifil gydag atebion digidol.

Wrth i mi ddyfalbarhau, sylweddolais fod galw mawr am fodelu 3D ym maes adeiladu yn ogystal â galw am beirianneg yn gyffredinol. Dyna pam y penderfynais ehangu fy ngorwelion i chwilio am bob swydd ym maes peirianneg - er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o fod yn arbenigwr CAD.

Cafodd fy niddordeb am beirianneg ei sbarduno gartref; pryd bynnag roedd fy nhad yn trwsio unrhyw beth, roeddwn i bob amser yn ei helpu. Deuthum yn rhywun a oedd yn gallu dysgu’n ymarferol, a’r profiad cyson o drwsio pethau fy hun yn hytrach na disgwyl i bobl eraill eu trwsio sydd wedi fy ysgogi i fod yn beiriannydd. Heb hyn, ni fyddwn wedi gallu archwilio’r gwahanol yrfaoedd sydd ar gael a byddwn wedi dilyn llwybr mwy traddodiadol. Mae peirianneg yn caniatáu i mi ddangos y creadigrwydd a’r arloesedd yr hoffwn ei ddangos i bawb.

Dysgwch fwy am fenywod yn y diwydiant adeiladu a swyddi peirianneg neu defnyddiwch ein chwilotwr gyrfa i ddod o hyd i’r rôl adeiladu berffaith i chi.