Faint o weithwyr adeiladu sydd eu hangen i adeiladu ffordd? 

Mae ffyrdd yn mynd â ni o A i B. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond mae’n hynod ddiddorol ystyried y gwaith sy’n cael ei wneud i’w creu. 

Ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, sy’n costio £135 miliwn, yw un o’r prosiectau seilwaith mwyaf sy’n cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru.  

Bydd ceir yn cael eu croesawu i’r rhan newydd hon o’r A487 ddechrau 2022 – canlyniad mwy nac 14 mlynedd o waith. Felly, beth sy’n gorfod digwydd cyn y gellir adeiladu ffordd newydd?  

Pam adeiladu ffordd newydd?

Yn gyntaf, mae’n rhaid bod ei hangen. Amser maith yn ôl yn 2008, cynigiodd awdurdodau lleol a swyddogion cynllunio ddatblygu ffordd osgoi i: 

  • Lleihau traffig a gostwng amseroedd teithio 
  • Gwella cysylltiadau 
  • Lleihau sŵn a llygredd aer mewn ardaloedd trefol
  • Lleihau gwrthdrawiadau. 

Yn dilyn proses hir o werthuso ac ymgynghoriadau cyhoeddus, cytunwyd ar y ffordd osgoi. Penodwyd y contractwyr Balfour Beatty a Jones Brothers i oruchwylio’r datblygiad, a throi’r weledigaeth yn realiti. 

Nid tarmac yn unig

Cynhaliwyd ymchwiliadau ac arolygon safle, i helpu peirianwyr priffyrdd i ddylunio a chynllunio’r ffordd osgoi. Yn ogystal â’r 9.8km o ffordd un a dwy lôn newydd, mae’r datblygiad yn golygu adeiladu 22 o adeileddau fel cylfatiau a saith o bontydd, gan gynnwys croesfan dros Reilffordd Ucheldir Cymru a dwy draphont. 

Hybu’r economi leol  

Yn ogystal â gwella dewisiadau teithio, mae’r ffordd osgoi o fudd i economi Cymru. Mae dros 90% o’r gweithlu dan sylw yn Gymry neu’n byw yng Nghymru, ac mae 75% o gostau’r cynllun yn cael eu gwario gyda chyflenwyr lleol. 

Tynnu sylw at rai o’r swyddi dan sylw:

Hundreds of professionals in all sorts of roles, from cost consultants to designers, highways maintenance technicians to legal advisors and more are involved with this landmark project. How have they influenced the build? We’ve picked a few professions to look at more closely.  

Archeolegwyr 

Wrth i waith cloddio fynd rhagddo, cafodd canŵ efydd ei ddarganfod gan archeolegwyr ar y safle a’i gludo i ffwrdd i’w gadw. Arweiniodd adroddiadau tirfesurwyr at gloddio rhan fawr o ffordd Rufeinig a chadarnhau llwybr hynafol rhwng caerau hanesyddol yng Ngogledd Cymru.  

Ecolegywyr 

Arolygwyd 30 o ecolegwyr yr ardal er mwyn canfod y bywyd gwyllt sydd mewn perygl o’r datblygiad. Mi wnaethant argymell gosod cylfatiau a phibellau ac ail-alinio cyrsiau dŵr i warchod arferion dyfrgwn, llygod y dŵr, ystlumod a physgod. Er bod angen torri coed ar hyd y llwybr newydd, mi wnaeth ecolegwyr sicrhau bod mwy o lystyfiant yn cael ei blannu na’r hyn a gollwyd, drwy gyflwyno 13 hectar newydd o goetir, 23km o wrychoedd a 30 hectar o laswelltir sy’n gyforiog o rywogaethau.  

Modelwyr trafnidiaeth 

Mae modelwyr trafnidiaeth wedi bod yn allweddol i’r prosiect hwn. Yn ôl yn 2008, mi wnaethant ragweld, pe na bai’r gwaith yn mynd yn ei flaen, y byddai llif traffig ar yr A487 wreiddiol yn cynyddu’n gynt ac yn gynt, gan achosi ciwiau hirach ac oedi ar gylchfannau a chyffyrdd allweddol, ac y byddai niferoedd anniogel o gerbydau’n mynd drwy drefi.

Gweithredwyr peiriannau

Mae gyrwyr peiriannau wedi defnyddio teirw dur, cloddwyr 360 a thryciau dadlwytho i glirio a lefelu tir, ac i gludo deunyddiau trwm yn ôl ac ymlaen o’r safle. Gallant drawsnewid tirwedd mewn cyfnod byr iawn ac maent wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect adeiladu mawr hwn. 

Prentisiaid a graddedigion diweddar

Mae dros 14 o brentisiaid wedi cymryd rhan, gan ddysgu sgiliau gwerthfawr a hyfforddi ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol ar y prosiect pwysig hwn. Mae contractwyr wedi cyflogi graddedigion i ennill profiad ar y safle a helpu tîm y safle gyda swyddi peirianneg, gweinyddu ac iechyd a diogelwch, wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd.  

Ydych chi'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?

Ydych chi’n meddwl tybed a fyddai rôl yn y diwydiant adeiladu yn addas i chi? Defnyddiwch ein Chwilotwr Gyrfa i ddarganfod swyddi yn y diwydiant sy’n cyfateb â’ch sgiliau a’ch diddordebau. 

Cysylltwch â ni ar ein cyfryngau cymdeithasol os oes gennych unrhyw ymholiadau: 

Instagram - @goconstructuk 

Facebook - @GoConstructUK 

Twitter - @GoConstructUK