Yasmeen Lari appearing on BBC News
Yasmeen Lari

Mae’r diwydiant adeiladu’n fwy amrywiol a chynhwysol nag erioed o’r blaen, a hynny i raddau helaeth oherwydd ymdrechion merched o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Dyma rai o’r merched ym maes adeiladu sydd wedi arloesi newid.

 

Yasmeen Lari

Fel pensaer benywaidd cyntaf Pacistan, mae Yasmeen Lari wedi cael profiad go iawn o wahaniaethu ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Pan oedd hi’n dechrau gweithio ar safleoedd adeiladu ym Mhacistan yn y 1960au, roedd dynion yn herio ei hawdurdod oherwydd ei bod yn ferch. Ond fe wnaeth hi oresgyn hyn ac ennill cryn barch yn ei maes, gan ddylunio prosiectau tai mawr, gwestai ac adeiladau masnachol yn yr isgyfandir.

Ar ôl ymddeol yn 2000, sefydlodd Lari grŵp pensaernïol dyngarol, Heritage Foundation of Pakistan, sy'n adeiladu tai cynaliadwy cost isel i helpu dioddefwyr trychinebau naturiol. Mae sefydliad Lari wedi bod o gymorth yn dilyn llifogydd ym Mhacistan yn 2013 a 2023, gan ailgartrefu miloedd o bobl mewn cyfnod byr.  

 

Elsie Owusu

Wedi’i geni yn Ghana, Elsie Owusu yw un o benseiri Du mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Prydain. Mae’n un o sylfaenwyr Cymdeithas y Penseiri Du, a hi oedd ei chadeirydd cyntaf, mae’n rhedeg ei phractis ei hun, Elsie Owusu Architects, ac mae wedi bod yn aelod o gyngor Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) ers 2014.

Ymysg ei phrosiectau mwyaf llwyddiannus mae’r fynedfa sydd wedi’i hailgynllunio ar gyfer gorsaf diwb Green Park, adnewyddiad llwyr Goruchel Lys y DU, a’r ‘Tŷ ynni isel’ yn Aden Grove, Llundain, lle bu Owusu yn cydweithio â’r artist Syr Peter Blake.

Mae hi wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ym maes pensaernïaeth ac yn 2017 lansiodd y cynllun RIBA +25 mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Elusennol Stephen Lawrence. Roedd Stephen Lawrence, a lofruddiwyd yn 1993, yn dymuno bod yn bensaer. Yn sgil yr ymgyrch +25, cynyddodd nifer yr aelodau nad ydynt yn wyn o gyngor llywodraethu RIBA o 1 (Owusu ei hun) i 12.

 

Zaha Hadid (1950 - 2016)

Roedd Zaha Hadid (1950-2016) yn arloeswr i ferched ym maes pensaernïaeth. Enillodd y pensaer Prydeinig, a anwyd yn Iraq, wobr uchaf pensaernïaeth, Gwobr Stirling, ddwywaith, a hi yw’r unig ferch sydd wedi derbyn y Fedal Aur Frenhinol, a’r ferch gyntaf i ennill Gwobr Bensaernïaeth Pritzker. Enillodd y ffugenw ‘Brenhines y Cromlinau’ drwy ei defnydd nodweddiadol o baentio fel offeryn dylunio a’i hagwedd unigryw at geometreg bensaernïol, ac mae ei hadeiladau enwocaf yn enghreifftiau gwych o’r arddull hwn, fel Canolfan Chwaraeon Dŵr Llundain, a adeiladwyd ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Mae hi hefyd wedi cynllunio Tŷ Opera Guangzhou ac Amgueddfa MAXXI Rhufain.

Bu farw tra oedd rhai o’i phrosiectau’n dal i gael eu hadeiladu, fel Maes Awyr Rhyngwladol Daxing yn Beijing.

 

Farshid Moussavi

Farshid Moussavi
Farshid Moussavi

Mae’r pensaer Prydeinig o Iran, Farshid Moussavi, wedi dod yn un o’r bobl fwyaf dylanwadol ym maes pensaernïaeth fodern. Hi oedd sylfaenydd Farshid Moussavi Architecture ac mae wedi dylunio adeiladau mor wahanol â phrif siop Victoria Beckham yn Llundain a’r Amgueddfa Celf Gyfoes yn Cleveland, yn yr Unol Daleithiau. Mae ei CV yn cynnwys adeiladau manwerthu, diwylliannol a phreswyl uchel eu proffil.

Mae Moussavi hefyd wedi addysgu ac ysgrifennu’n eang ar bensaernïaeth, gan ganolbwyntio’n bennaf ar estheteg. Mae’n Athro mewn Ymarfer Pensaernïaeth yn Ysgol Dylunio i Raddedigion ym Mhrifysgol Harvard ac mae wedi dal nifer o swyddi athro a rolau academaidd. Mae’n aelod o’r Academi Frenhinol a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i bensaernïaeth yn 2018.

 

Lesley Lokko

Mae Lesley Lokko yn amryddawn. Cafodd ei geni i rieni o Ghana a’r Alban, ac mae ganddi gysylltiadau agos â’r ddwy wlad o hyd. A hithau’n athro pensaernïaeth, sefydlodd Lokko yr Ysgol Pensaernïaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Johannesburg ac mae’n darlithio ledled y byd. Mae hi wedi dysgu ym Mhrifysgol Michigan, Prifysgol Kingston a Phrifysgol Westminster. Yn 2021, hi oedd curadur du cyntaf erioed Biennale Pensaernïaeth Venice a chafodd OBE am ei gwasanaethau i bensaernïaeth ac addysg yn 2023.

Ochr yn ochr â'i gyrfa academaidd, mae hi'n nofelydd, gyda 10 nofel ‘llen glam’ lwyddiannus i'w henw. Yn debyg i un o’i harwresau ffuglennol, er bod ei seren ar gynnydd, mae ei thraed yn dal ar y ddaear. Yn 2021, yn Accra, Ghana, sefydlodd Sefydliad Dyfodol Affrica, ysgol bensaernïaeth ôl-raddedig a llwyfan digwyddiadau cyhoeddus.

 

Trudy Morgan

Nid oes llawer o ferched mwy arloesol ym maes peirianneg na Trudy Morgan. Wedi’i geni yn Lerpwl yn 1966, pan oedd hi’n ifanc symudodd rhieni Morgan yn ôl i’w mamwlad yn Sierra Leone, lle cafodd ei haddysg mewn peirianneg sifil. Morgan yw’r ferch Affricanaidd gyntaf i ennill Cymrodoriaeth Sefydliad y Peirianwyr Sifil (FICE), a hi oedd Llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad Peirianwyr Sierra Leone.

Mae’n Gyfarwyddwr Cyswllt y cwmni peirianneg sifil byd-eang Turner & Townsend, lle bu’n gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau yn y sectorau adeiladu, iechyd a thrafnidiaeth. Mae Morgan yn cymryd rhan weithredol mewn sawl sefydliad yn Sierra Leone. Hi oedd un o sefydlwyr y mudiad nid-er-elw Sierra Leone Women Engineers, sy’n cefnogi merched ym maes peirianneg, ac mae hefyd yn Ymddiriedolwr ar gyfer yr elusen Engineers for Change Sierra Leone.

 

Beth yw effaith eu gwaith ar y diwydiant adeiladu heddiw?

Drwy eu gyrfaoedd fel penseiri a pheirianwyr, mae’r merched hyn wedi helpu i chwalu rhwystrau, newid barn a bod yn eiriolwyr dros newid. Maen nhw wedi profi ei bod yn bosib bod yn ferch – merch nad yw’n wyn – a llwyddo’n fawr ac ysbrydoli merched eraill i wneud yr un peth. Mae pob merch ethnig amrywiol sydd am ddatblygu gyrfa ym maes adeiladu yn gwybod eu bod yn gallu gwneud hynny ac y byddant dim ond yn cael eu mesur neu eu barnu yn ôl eu doniau, nid yn ôl eu rhywedd na lliw eu croen.

Rhannwch eich straeon am amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu heddiw

Os hoffech chi rannu eich profiad o fod yn ferch ym maes adeiladu, pensaernïaeth neu beirianneg, cysylltwch ag Am Adeiladu