Amrywaieth a diwylliant mewn adeiladu
Dysgwch am rwydweithiau sy’n gweddnewid pethau o ran cynrychiolaeth pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wrth ddylunio ac adeiladu’r amgylchedd adeiledig.
Mae hyn yn newyddion da i’r gweithwyr, ac i’r diwydiant yn gyffredinol hefyd. Mae mwy o amrywiaeth yn rhoi cylch rhinweddol ar waith, sy’n gwneud cwmnïau’n fwy deniadol i ystod ehangach o unigolion talentog.
Mae’r un cwmnïau’n dod yn fwy deniadol i gleientiaid ac yn fwy cystadleuol hefyd, oherwydd bod eu sylfaen cwsmeriaid yn cael ei chynrychioli’n well.
Gall eu gweithluoedd fanteisio ar fwy o brofiadau a safbwyntiau ehangach, er mwyn creu syniadau gwell a symud ymlaen yn gynt.
Er hynny, gellid gwneud mwy i wella cynrychiolaeth BAME ym maes adeiladu – gan gynnwys newid canfyddiadau am yr hyn y mae’r diwydiant yn ei olygu.
Bydd yn galw am drwsio’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘biblinell sy’n gollwng’, lle nad yw nifer sylweddol o bobl BAME yn camu ymlaen o hyfforddiant i gael gwaith. Mae’r ffenomen yn awgrymu eu bod yn wynebu rhwystrau at waith neu’n rhoi’r gorau iddi am nad yw eu rhagolygon yn ddigon deniadol.
A bydd yn galw am dorri’r ‘nenfwd gwydr’ a allai atal pobl dalentog o gefndir BAME rhag symud ymlaen i’r swyddi uchaf.
Mae llawer o gwmnïau eisoes yn cymryd camau cadarnhaol, mae ganddynt bolisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth cadarn, a chynlluniau ar waith i gefnogi staff BAME. Mae eraill wedi cyflymu rhaglenni hyfforddi, ac yn cynnig cyrsiau rheoli ac arwain pwrpasol i unigolion sy’n dangos potensial.
Mae rhai o adeiladau mwyaf eiconig y DU dros y blynyddoedd diwethaf wedi dechrau eu taith ar fyrddau lluniadu penseiri BAME, er mai dim ond tua 6% o’r proffesiwn sy’n dod o gefndiroedd BAME.
Er enghraifft, ffrwyth dychymyg y pensaer Prydeinig a anwyd yn Iraq, Zaha Hadid, a’i thîm oedd llinellau a chromliniau dramatig Canolfan Acwateteg Llundain, a adeiladwyd ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Mae hi a’i thîm wedi dylunio rhai o’r adeiladau cyhoeddus mwyaf nodedig ym mhob cwr o’r byd.
Nhw oedd hefyd yn gyfrifol am Amgueddfa Glan yr Afon Glasgow, a gafodd glod mawr pan agorwyd hi yn 2011. Enillodd Wobr Amgueddfa’r Flwyddyn Ewrop 2013 ac mae’n denu dros filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn, sy’n golygu mai dyma un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Alban.
Enillodd Zaha Hadid brif wobr pensaernïaeth, Gwobr Stirling, ddwywaith, a hi yw’r unig fenyw sydd wedi cael y Fedal Aur Frenhinol, sydd wedi cael ei gwobrwyo i’r penseiri gorau a mwyaf dylanwadol yn y byd ers 1848.
Un arall blaenllaw yw Syr David Adjaye, pensaer Prydeinig-Ghanaidd a anwyd yn Tanzania. Cafodd ei enwi’n berson du mwyaf dylanwadol Prydain yn ogystal â bod yn ddylunydd y flwyddyn yn 2011 a derbyn OBE am wasanaethau i bensaernïaeth Brydeinig.
Mae ei waith yn cynnwys Amgueddfa Hanes a Diwylliant Americanaidd y Smithsonian yn Washington DC a’r Idea Store yn Whitechapel, adeilad cymunedol trawiadol ag wyneb gwydr yn nwyrain Llundain (gweler y llun uchod).
A Simone de Gale, enillydd pensaer y flwyddyn yng Ngwobrau Merched mewn Adeiladu 2017, a oedd yn gwybod ers ei bod yn 10 oed mai pensaer oedd hi am fod. Roedd ei thaid yn bensaer adnabyddus yn Jamaica, ac mae aelodau eraill o’r teulu hefyd yn gweithio ym maes adeiladu.
Mae hanes BAME hefyd ynghlwm yn amgylchedd adeiledig Prydain, sy’n storfa o straeon miliynau o bobl ar yr ynys hon ac ar draws y byd sydd â chysylltiadau â hi ers cannoedd o flynyddoedd.
Mae henebion a cherfluniau ledled y wlad yn brawf o orffennol cyffredin, gan gynnwys sawl un a gafodd statws rhestredig yn ddiweddar er mwyn cydnabod eu pwysigrwydd i hanes pobl dduon.
Yn eu plith, mae dau yn Llundain, sef penddelw Nelson Mandela y tu allan i’r Royal Festival Hall, a’r Brixton Recreation Centre a oedd yn adeilad nodedig yn y 1980au.
Ychydig sy’n sylweddoli fod un o’r motiffau pensaernïol mwyaf amlwg a ddefnyddir mewn mynwentydd, ar gofebion, ac fel canolbwynt i rai o dai gwledig mwyaf mawreddog y wlad, megis Kingston Lacy yn Dorset, yn tarddu o Affrica.
Roedd Eifftiaid hynafol yn defnyddio’r obelisg, sy’n ymdebygu i byramid estynedig, wrth fynedfeydd temlau. Un obelisg o’r fath yw Nodwydd Cleopatra, un o dirnodau hynaf Llundain o bell ffordd, a oedd yno bron i 1,500 o flynyddoedd cyn y freninhines enwog y cafodd ei henwi ar ei hôl.
Ac yn nes o lawer at heddiw, mae teml garreg Hindŵaidd draddodiadol gyntaf Ewrop yn Neasden yng ngogledd-orllewin Llundain.
Pan gafodd ei hadeiladu yn 1995, hon hefyd oedd y deml Hindŵaidd fwyaf y tu allan i India, ac roedd yn cynnwys bron i 5,000 o dunnelli o galchfaen a marmor, yn ogystal â 4,500 tunnell o goncrit yn ei sylfaen 6 troedfedd o drwch.
Dim ond dwy flynedd a gymerodd hi i adeiladu’r deml enfawr gyda chymorth tîm o 1,526 o gerflunwyr a seiri maen.
Mae’r diwydiant adeiladu yn gweithio’n well gyda gweithluoedd amrywiol. Mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn gwahardd gwahaniaethu, a hefyd yn galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r drefn gaffael i annog amrywiaeth a chreu cyfleoedd i bobl BAME.
Gallwch ddod yn rhan o weithlu gwirioneddol amrywiol a chynhwysol drwy gael gyrfa yn y maes adeiladu.
Mae yna gannoedd o swyddi adeiladu a gyrfaoedd cyffrous i ddewis o’u plith. Dysgwch fwy gyda’n Chwilotwr Gyrfa neu rhowch gynnig ar ein Cwis Gorau Erioed i gael gwell syniad o’r hyn a allai weithio i chi.