Mae ein #TakeoverTuesday ar Instagram yn cynnig cipolwg i chi ar sut brofiad yw gweithio ym maes adeiladu, drwy arddangos diwrnodau ym mywydau pobl ysbrydoledig yn y maes.

Roedd yn wych cwrdd â'n cyfranogwyr #TakeoverTuesday, Kimberley a Shaynesia. Fe wnaethom ofyn ychydig o gwestiynau iddynt am eu teithiau i'r diwydiant adeiladu.


Menywod ysbrydoledig yn y diwydiant adeiladu

Kimberley Hepburn, Syrfëwr Meintiau Iau yn TfL

Sut daethoch chi i mewn i'r diwydiant adeiladu?

Pan oeddwn i'n penderfynu rhwng prifysgol a phrentisiaeth, aeth fy nhad i Skills London lle clywodd am gynllun prentisiaeth TfL. Fe wnes i sylweddoli fod hyn yn cyd-fynd â'm cryfderau mewn mathemateg a dyna sut y penderfynais i fynd i mewn i'r byd adeiladu.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried mynd i mewn i'r diwydiant, ond nad yw'n siŵr?

Ystyriwch eich opsiynau yn bendant - mae cymaint o gyfleoedd ac mae rhywbeth sy'n addas i bawb.

Os ydych chi am gael gyrfa â chorff proffesiynol sydd wedi'i reoleiddio dros y byd i gyd, ac eisiau swydd lle gallwch weithio ar safle ac mewn swyddfa - yn ogystal â chefnogi'r rheolwr prosiectau - yna gallai tirfesur fod yn addas i chi!

Fodd bynnag, mae cymaint o opsiynau, felly ystyriwch nhw i gyd.



Menywod ysbrydoledig yn y diwydiant adeiladu

Shaynesia Byfield, Syrfëwr Meintiau Cynorthwyol, TfL

Sut daethoch chi i mewn i'r diwydiant adeiladu?

Roedd fy llwybr i mewn i adeiladu'n gwbl ddamweiniol. Fe wnes i astudio gwyddoniaeth ar gyfer fy lefel A cyn gwneud gradd brifysgol mewn bioleg. Fy mwriad yn wreiddiol oedd mynd i fyd meddygaeth, ond sylweddolais yn fy mlwyddyn olaf nad oedd yn addas i mi. Roeddwn i'n lwcus fy mod wedi llwyddo i gael swydd ar ôl y brifysgol, ond nid oedd yn ymwneud â gwyddoniaeth. Roedd ar gyfer busnes adeiladu bach teuluol.

Yna, fe wnes i lawer o brofiad gwaith â syrfewyr adeiladu a dywedodd un ohonynt: “Mae gen ti fathemateg, mae gen ti wyddoniaeth - ystyria dirfesur, nid yn unig mewn perthynas ag adeiladu, ond mesur meintiau.”

Felly gwelais gynllun graddedigion TfL, ond gan nad oeddwn i'n dod o gefndir adeiladu, doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy nerbyn. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw un rôl benodol ar gyfer y rheini sydd heb brofiad, felly fe wnes i gais a chael fy noddi ar gyfer fy ngradd feistr felly doedd dim rhaid i mi dalu am unrhyw gymwysterau, a chefais y rôl! Dwi newydd gwblhau fy ngradd feistr rhan-amser a byddaf yn gorffen cynllun graddedigion TfL eleni.

Peidiwch â dychryn a meddwl mai pwnc i fechgyn ydy hwn, neu fod gwaith adeiladu ar gyfer dynion a phoeni beth fydd pobl yn ei feddwl. Os na fyddwn ni'n dechrau nawr, fydd pethau byth yn newid.


Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried mynd i mewn i'r diwydiant, ond nad yw'n siŵr?

Yn bendant, peidiwch â'i ddiystyru - yn enwedig merched - peidiwch â'i ddiystyru, mae rhywbeth yno i chi. Peidiwch â dychryn a meddwl mai pwnc i fechgyn ydy hwn, neu fod gwaith adeiladu ar gyfer dynion a phoeni beth fydd pobl yn ei feddwl. Os na fyddwn ni'n dechrau nawr, fydd pethau byth yn newid. A dyna'r mantra dwi'n ei ddweud bob amser.

Mae mwy o fenywod yn ymuno â'r diwydiant, ond mae angen i ni ddenu hyd yn oed MWY o fenywod, felly yn bendant i ferched - byddwch yn agored. Hefyd, ystyriwch yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda a'r hyn rydych chi'n ei fwynhau. Efallai eich bod chi'n dda mewn mathemateg, efallai eich bod chi'n dda mewn gwyddoniaeth, ac felly efallai y byddwch yn cyfyngu'ch hun i yrfaoedd sy'n gysylltiedig â meddygaeth, y gyfraith a chyllid. Fodd bynnag, mae proffesiynau gwerth chweil o fewn y diwydiant adeiladu sy'n gofyn am yr un sgiliau.

Mae gan adeiladu rywbeth at ddant pawb; mae gan bob prosiect ei heriau a'i syrpreisys ei hun. Fyddwch chi byth yn diflasu.



Tarwch olwg ar ein holl gyfranogwyr ysbrydoledig #TakeoverTuesday ar Instagram i weld sut brofiad yw gweithio ym maes adeiladu!