Mae asiedyddion yn weithwyr hanfodol yn y diwydiant adeiladu, gan greu cynnyrch a strwythurau o bren sy’n cael eu defnyddio yn y broses adeiladu. Dyma ein canllaw i’r grefft saernïaeth, sut mae’n wahanol i waith coed a’r opsiynau ar gyfer dechrau arni fel asiedydd. 


Beth yw saernïaeth?

Mae asiedydd yn gweithio gyda choed a deunyddiau eraill i wneud strwythurau, dodrefn a ffitiadau sy’n cael eu gosod mewn adeiladau. Mae asiedyddion yn grefftwyr hyfforddedig sy’n creu cynnyrch pwrpasol, sy’n gweithio’n agos gyda chyflenwyr ac is-gontractwyr ac sy’n arbenigo mewn defnyddio offer traddodiadol a thechnoleg fodern. 

Gwaith Coed yn erbyn Saernïaeth 

Mae Gwaith Coed a Saernïaeth yn aml yn cael eu defnyddio yn yr un cyd-destun, ond nid ydynt yr un gwaith. Beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt 

Saernïaeth 

Fel mae’r enw’n awgrymu, saernïaeth yw’r broses o ddod â choed at ei gilydd mewn gweithdy oddi wrth safle adeiladu. Mae asiedyddion yn dylunio ac yn gwneud y cynnyrch sy’n cael eu gosod ar y safle gan y saer. Mae enghreifftiau o waith coed yn cynnwys pethau fel drysau, cabinetau, silffoedd llyfrau, wardrobau, ffenestri a byrddau.  

Gwaith Coed 

Mae seiri coed yn tueddu i weithio ar y safle adeiladu ei hun ac maent yn gyfrifol am strwythur neu fframwaith coed cyffredinol y prosiect. Mae seiri coed yn adeiladu ac yn ffitio elfennau mwy fel trawstiau to, distiau llawr, waliau a gwaith stydiau, ac yn integreiddio’r cynhyrchion y mae seiri yn eu gwneud yn yr adeiladau.  

Beth yw saernïaeth bwrpasol?

Mae saernïaeth bwrpasol yn gynnyrch wedi’i ddylunio’n arbennig sy’n cael ei greu i gwsmeriaid er mwyn ffitio i’w gofynion neu eu mannau penodol. Mae cynhyrchion pwrpasol yn ychwanegu gwerth at adeiladau oherwydd eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y lle sydd ar gael ac yn cael eu gwneud yn unol â manyleb uwch nag eitemau a gynhyrchir gan ffatrïoedd neu a gaiff eu masgynhyrchu. Caiff asiedyddion eu cyflogi i greu cynnyrch pwrpasol oherwydd gallant ddefnyddio eu sgiliau i greu eitemau sy’n bodloni union ofynion cwsmeriaid, gan fynd y tu hwnt i safon gyffredinol crefftwaith.  

Beth mae asiedydd yn ei wneud?

Drwy hyfforddiant a phrofiad, daw asiedydd yn arbenigwr ar uno darnau o bren gyda’i gilydd a dysgu sut i dorri amrywiaeth o wahanol fathau o uniadau, fel uniadau bridiau, uniadau mortais a thyno, uniadau rabets ac uniadau bisgedi. Mae asiedyddion hefyd yn mesur, marcio ac yn torri coed yn unol â dyluniadau technegol, yn cynnal arolygon safle, yn deall lluniadau technegol, yn llunio rhestrau toriadau ac yn amcangyfrif y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer tasg.  

Bydd asiedyddion yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio peiriannau fel turnau, olwynion sandio a llifiau crwn, offer llaw llai yn ogystal â chyfarpar torri cyfrifiadurol, lluniadu CAD a meddalwedd dylunio.  

Sut mae cael swydd ym maes saernïaeth? 

Mae sawl ffordd wahanol o ddechrau gyrfa ym maes saernïaeth.  

Mae cyrsiau coleg ar gael mewn saernïaeth a gwaith coed. Gofynnwch i’ch coleg lleol a yw'n darparu’r cyrsiau canlynol: 

  • Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Coed Pensaernïol Mainc 
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnyrch Pren a Phaneli 
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Coed a Saernïaeth 
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Peirianneg Coed. 

Fel arfer, bydd angen 2 radd TGAU neu fwy arnoch ar raddau 9 i 3 ar gyfer cwrs Lefel 2, a 4 neu fwy o gymwysterau ar raddau 9 i 4 ar gyfer cyrsiau Lefel 3.  

Gallech chi ddilyn prentisiaeth mewn saernïaeth a gwaith coed (fel arfer wedi’u bwndelu gyda’i gilydd) i hyfforddi fel saer safle neu asiedydd pensaernïol. Gallech weithio gyda chyflogwr sy’n arbenigo mewn maes saernïaeth penodol.  

Dewis arall yw cwblhau prentisiaeth ganolradd fel gweithiwr cynhyrchu cynnyrch pren. Fel arfer, mae angen rhai cymwysterau TGAU i gael mynediad i brentisiaeth. 

Chwiliwch drwy’r prentisiaethau Saernïaeth diweddaraf yn Talentview construction.  

Gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu – efallai y bydd rhai cwmnïau'n cyflogi pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol fel cynorthwywyr i ddysgu'r grefft. Bydd dawn gyda gwaith coed, o’r ysgol efallai, bob amser yn helpu.  

 

Mae profiad gwaith yn edrych yn dda ar CV a gallai eich helpu i gael eich troed i mewn yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn drwy eich ysgol, gweithio ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau’r ysgol os oes gennych chi berthynas sy’n gweithio fel asiedydd.  


Cael gwybod mwy am saernïaeth

Mae llawer o wybodaeth ar Am Adeiladu am y cyfleoedd sydd ar gael ym maes saernïaeth.