Cyn Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban heddiw, fe wnaethom ni siarad â thri o bobl a ddewisodd yrfa ym maes adeiladu. Rydyn ni’n cael gwybod beth wnaeth eu cymell i fod eisiau gyrfa ym maes adeiladu a sut y gwnaethon nhw ddechrau arni.

Fel Cenhadon Adeiladu, maen nhw’n frwd o blaid y diwydiant gyda chenhadaeth barhaus i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

Catherine Ashcroft – Cydlynydd Addysg, Sefydliad Dysgu Eric Wright

Diwrnod canlyniadau Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban – beth nesaf?
Diwrnod canlyniadau Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban – beth nesaf?
Diwrnod canlyniadau Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban – beth nesaf?

Defnyddiwch eich cryfderau i gymryd y cam nesaf

Cefais radd mewn chwaraeon, a dyma yw fy nghefndir. Rydw i wastad wedi gweithio’n galed ac wedi canolbwyntio ar y sgiliau trosglwyddadwy rydw i wedi’u dysgu o weithio ym maes chwaraeon, addysg a’r tu hwnt.

Rydw i wedi cefnogi pobl ifanc sy’n ymuno â’r diwydiant ers 15 mlynedd ac rwy’n siŵr fy mod wedi ysbrydoli llawer o fyfyrwyr i ddilyn eu breuddwydion yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae adeiladu yn ddiwydiant cyffrous i weithio ynddo ac mae yna le i bawb beth bynnag fo’ch cryfderau.

Ydych chi'n ystyried gweithio ym maes adeiladu?

Siaradwch â phobl ym maes adeiladu. Holwch pam eu bod wrth eu boddau â’r swyddi maen nhw’n eu gwneud. Yn bennaf oll, os ydych chi’n gweld cyfle, ewch amdani.

“Mae pawb yn wynebu heriau a dydy pethau ddim bob amser yn digwydd fel roeddem wedi bwriadu, ond rwy’n credu na ddylech chi byth roi’r ffidl yn y to os ydych chi eisiau cyflawni rhywbeth, ac mi wnewch chi gyflawni eich amcanion.”

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, dylech ystyried adeiladu. Mae cynifer o swyddi ym maes adeiladu nad ydych chi efallai wedi clywed amdanynt.

Beth bynnag fo’ch sgiliau a’ch cryfderau, mae pethau yn y diwydiant y gallwch eu mwynhau ac mae llawer o bethau i’w cyflawni. Peidiwch â diystyru gyrfa ar sail stereoteipiau – rhowch gynnig arni dros eich hun. Os nad yw’n gweithio, rhowch gynnig ar rywbeth arall. Efallai y byddwch chi’n darganfod gyrfa na wnaethoch chi erioed freuddwydio amdani.

Peter Baikie – Rheolwr Prosiect, Robertson Construction Northern

Diwrnod canlyniadau Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban: beth nesaf?

Bydd brwdfrydedd yn mynd â chi’n bell

Meddyliais am fynd i’r byd adeiladu pan adawais yr ysgol yn 16 oed. Roeddwn i awydd cael bywyd yn yr awyr agored a gwneud rhywbeth gyda fy nwylo.

Treuliais 3 wythnos yn gwneud profiad gwaith ar safle adeiladu ac fe wnes i fwynhau’r cyfeillgarwch yn fawr iawn. Roedd gosod brics yn edrych yn dda, felly gofynnais am brentisiaeth. Doedd dim angen unrhyw gymwysterau arna i mewn gwirionedd.

Brwdfrydedd yw’r ffactor pwysicaf wrth gael swydd. Os yw person yn awyddus neu’n frwdfrydig iawn, mae’n mynd yn bell, beth bynnag fo’i gefndir addysgol. 

Ysbrydoli eraill i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu

Rydw i wedi bod yn ymwneud â phob math o waith adeiladu, o weithio fel briciwr ar brentisiaeth i fod yn uwch reolwr prosiect. Edrychais o’m cwmpas un diwrnod a meddyliais, 'ble mae’r bobl ifanc i gyd?’ Roeddwn i eisiau chwarae rhan fwy ymarferol wrth annog pobl ifanc i ymuno â’r proffesiwn.

Nid yw llawer o athrawon a darlithwyr yn gwerthfawrogi’r holl wahanol rolau sydd ar gael ym maes adeiladu.

Nid yw llawer o ferched yn cael eu rhoi ar y trywydd iawn. Mae llawer mwy ar gael iddyn nhw na dim ond y swyddi mwy academaidd, fel bod yn bensaer neu’n syrfëwr meintiau.

Gall merched wneud pob swydd adeiladu gystal neu’n well na dynion. Ond does dim llawer o ferched ifanc yn cael gwybod am gyfleoedd a rolau yn y diwydiant.  

Roedd fy mab ieuengaf yn awyddus iawn i fynd i’r maes adeiladu. Erbyn hyn mae’n rheolwr safle yn y cwmni rydw i’n gweithio iddo. Ac mae fy merch yn syrfëwr meintiau. Ni wnaeth neb sôn am y diwydiant adeiladu yn eu hysgol nhw, ond fe wnaethon nhw ddysgu am hynny gen i.

Mae mwy nag un llwybr i'ch dyfodol

Does dim rhaid i chi fynd i'r brifysgol i gael swydd ym maes adeiladu. Dydy rhai o’r bobl fwyaf clyfar rydw i’n eu hadnabod heb fod i’r brifysgol. Gadawodd Bill Robertson, cadeirydd gweithredol Robertson Northern, yr ysgol yn 16 oed ac mae bellach yn cyflogi dros 3,000 o bobl.

“Gallwch ddilyn y llwybr academaidd os ydych chi’n dangos bod gennych ddawn dda i ddysgu, neu gallwch fynd i mewn heb gymwysterau a gweithio’ch ffordd drwyddyn nhw.”

Mewn rhai ffyrdd, mae’n haws dysgu'r pethau academaidd ar ôl i chi fod yn gweithio ym maes adeiladu am gyfnod. Mae gennych chi brofiad go iawn a sgiliau i'w defnyddio.

Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni a pheidiwch â bod ofn methu

Os ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ei hoffi, rhowch gynnig arni. Ac os nad yw’n gweithio, does dim ots, gallwch symud ymlaen i rywbeth arall.

Does dim angen i chi frysio. Rhowch gynnig ar amrywiaeth o bethau cyn i chi benderfynu. Os nad ydych chi’n siŵr beth rydych chi eisiau ei wneud ymlaen llaw, peidiwch â phoeni. Rhowch gynnig ar bethau sydd o ddiddordeb i chi. Peidiwch â meddwl mai dyma beth mae’n rhaid i chi ei wneud nawr.  

Y peth da am adeiladu yw y gallwch chi fod yn gwneud unrhyw beth bron iawn. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd.

Sean MacDonald – Rheolwr Safle, BAM Construction

Diwrnod canlyniadau Dyfarniadau Cymwysterau’r Alban: beth nesaf?

Pam bod yn Gennad Adeiladu

Gofynnodd fy nghyflogwr, BAM Construction, i mi a oeddwn i eisiau bod yn gennad adeiladu. Fel un a raddiodd yn ddiweddar a rhywun sydd newydd ddod yn rheolwr ac ymuno â’r diwydiant, gwelais sut y gallai’r hyfforddiant fod o fudd i mi – rydych chi’n dysgu sgiliau cyflwyno, yn ymweld ag ysgolion a cholegau ac yn profi’r manteision cymunedol.

Llwybrau i’r maes adeiladu

Roeddwn i tua 16 oed erbyn i mi sylweddoli fy mod i eisiau mynd i’r byd adeiladu. Roedd Dad yn arfer bod yn oruchwyliwr ffyrdd ac roedd rhai o’m hewythrod yn seiri coed ac yn rhedeg eu busnesau eu hunain. Daeth cyfle i gael prentisiaeth fel aseidydd ac fe fanteisiais ar y cyfle.

Doedd dim angen unrhyw gymwysterau arnaf i ddechrau. Cefais fy mhrentisiaeth ac es ymlaen i gael HND (Diploma Genedlaethol Uwch) mewn rheoli adeiladu, gan orffen gyda gradd anrhydedd mewn rheoli adeiladu o Brifysgol Glasgow Caledonian.

Yn ystod y gwyliau, roeddwn i’n gallu gweithio fel asiedydd ac ennill digon o arian i astudio’n llawn amser am weddill y tymor.

“Oherwydd y ffordd y dechreuais ym maes adeiladu, rydw i eisiau rhoi gwybod i bawb arall bod dewisiadau gwahanol a llwybrau gwahanol ar gael i’r maes adeiladu. Does dim angen i chi wybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn syth ar ôl i chi adael yr ysgol am y tro cyntaf."

Cefais fy ysbrydoli gan bob math o bobl, o deulu i ffrindiau yn mynd i addysg bellach yn nes ymlaen.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud ar ôl cael eich canlyniadau, dilynwch eich diddordebau. Gall unrhyw gyfle gwaith sy’n codi ac unrhyw brofiad gwaith eich helpu yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Dod o hyd i’r rolau adeiladu sy’n addas i chi

Gyda chymaint o yrfaoedd a chyfleoedd ym maes adeiladu, mae rhywbeth at ddant pawb.

Dysgwch pa swyddi adeiladu sy’n addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau drwy ddefnyddio ein chwilotwr gyrfa.

Rhowch gynnig ar ein Chwilotwr Gyrfa