Banner image

Mae sawl ffordd o ddechrau arni yn y diwydiant adeiladu. Un ohonynt yw cymryd swydd lefel mynediad, sy’n golygu eich bod yn dechrau o’r dechrau o ran profiad, ond mewn rhai achosion efallai eich bod wedi cael gwybodaeth gyfredol o brentisiaeth neu brofiad gwaith.  

Mae swyddi adeiladu lefel mynediad yn rhoi cyfle i chi ddatblygu yn y diwydiant, gan ddysgu wrth i chi fynd, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gallu cael yr yrfa maen nhw ei heisiau yn y maes adeiladu. 

Yr opsiynau sydd ar gael i’r rhai heb unrhyw brofiad

Fel y soniwyd gennym, bydd gan rai pobl brofiad o’r maes adeiladu drwy hyfforddiant. Ond beth os nad oes gennych chi unrhyw brofiad o gwbl? Peidiwch â phoeni, mae digon o ddewisiadau ar gael o hyd.

Prentisiaeth adeiladu

Bydd prentisiaeth, sy’n agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn, yn gadael i chi astudio ar gyfer cymhwyster a gweithio i gael profiad ar yr un pryd. Maen nhw ar gael ym mhob math o rôl adeiladu bron iawn, felly gallech chi fod yn astudio ac yn gweithio tuag at swydd eich breuddwydion o'r cychwyn cyntaf. 

Fel prentis adeiladu, byddwch yn cael eich cyflogi’n llawn amser. Mae cannoedd o brentisiaethau adeiladu amrywiol a gwerth chweil i ddewis o’u plith. Gallech fod wrth fwrdd lliniadu, yn datblygu sgiliau rheoli prosiect, hyfforddi fel crefftwr a mwy.

I ddod o hyd i brentisiaeth yn Lloegr, cliciwch yma

Ar gyfer prentisiaethau yn yr Alban, cliciwch yma.  

Hyfforddeiaethau

Mae hyfforddeiaethau ar gael yng Nghymru a Lloegr i'ch helpu i baratoi ar gyfer prentisiaeth neu swydd. Mae rheolau cymhwyso ychydig yn wahanol yn dibynnu ym mha wlad rydych chi'n gwneud y cais, ond os oes angen profiad arnoch i’w roi ar eich CV, neu os hoffech chi roi cynnig ar rôl i weld a yw'n addas i chi, mae hon yn ffordd wych o fynd ati. Dysgu mwy am hyfforddeiaethau.  

Lefelau T

Mae’r cymhwyster hwn, sydd ond ar gael yn Lloegr, yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch. Gall lefelau T eich helpu i baratoi ar gyfer rôl yn y diwydiant adeiladu, gan gael profiad o’r diwydiant mewn lleoliad 45 diwrnod, a byddwch hefyd yn astudio mewn ystafell ddosbarth. Cewch ragor o wybodaeth yma

Profiad gwaith

Mae cymwysterau’n bwysig, ond gyda phrofiad gwaith gallwch chi gael syniad go iawn o swydd, datblygu sgiliau a’u rhoi ar waith. Hefyd, gall eich helpu os byddwch yn gwneud cais am brentisiaethau neu gynlluniau hyfforddi eraill yn ogystal â swyddi. Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Rhai rolau lefel mynediad i’w hystyried

Dyma rai rolau lefel mynediad y gallech eu hystyried, ond mae llawer mwy. Porwch drwy’r holl swyddi adeiladu yma. 

Gweithiwr adeiladu cyffredinol

Yn rôl gweithiwr adeiladu cyffredinol, byddwch yn rhan o nifer o dasgau gwahanol, llawer ohonynt yn ymwneud â gwaith llaw fel paratoi tir, llwytho deunyddiau a defnyddio offer. Mae’n rôl gyffredinol wych i’r rheini sydd eisiau baeddu eu dwylo ar safle adeiladu. Dysgwch fwy

Gweithiwr cynnal a chadw dan hyfforddian

Mae cynnal a chadw yn allweddol i unrhyw brosiect adeiladu, felly byddwch yn rhan hanfodol o’r broses fel gweithiwr cynnal a chadw dan hyfforddiant. Os ydych chi’n hoffi DIY, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi.  

Peintiwr ac addurnwr dan hyfforddiant

Os ydych chi’n dda gyda brwsh paent, neu os gallwch ddod â lle’n fyw gyda’ch sgiliau addurno, gallai hon fod yn rôl ddelfrydol i chi. Mae peintio ac addurno yn allweddol i ddatblygu pob math o brosiectau adeiladu, o gartrefi i adeiladau masnachol. Dysgwch fwy am y cyflog a'r oriau arferol yma

Gweithiwr chwarel dan hyfforddiant

Os ydych chi wrth eich bodd gydag offer pŵer, mae gweithwyr chwareli’n eu defnyddio i gloddio, drilio a chludo deunyddiau fel llechi a graean i safleoedd adeiladu. Dysgwch sut mae dod yn un yma.  

Teilsiwr waliau a lloriau dan hyfforddiant

Wrth weithio ar unrhyw nifer o brosiectau adeiladu, fel teilsiwr waliau a lloriau dan hyfforddiant byddwch yn dysgu sut i weithio gyda theils ac offer y grefft ar bob math o arwynebau.  

Cynlluniau graddedigion gwaith adeiladu

Mae cynllun graddedigion yn swydd lefel mynediad gyda rhaglen hyfforddi i gyd-fynd â hi. Drwy wneud hyn, byddwch yn dod i adnabod y cwmni wrth i chi ennill profiad. Maent ychydig yn fwy strwythuredig na swydd i raddedigion, gyda mwy o gefnogaeth wrth i chi ddysgu. Mae amryw o gynlluniau i raddedigion ar gael ym maes adeiladu, felly os ydych chi'n gorffen eich cwrs yn y brifysgol, dechreuwch chwilio er mwyn i chi allu gwneud cais mewn da bryd. I weld am gynlluniau ledled y DU, rhowch gynnig ar gradcracker.  

Gwybod beth yw eich opsiynau ar gyfer ymuno â'r diwydiant adeiladu

Felly, mae gennych chi lawer o ddewisiadau ar gyfer ymuno â'r diwydiant adeiladu, hyd yn oed os na wnaethoch chi astudio cwrs cysylltiedig yn y brifysgol. 

Fodd bynnag, os ydych chi’n chwilio am swydd yn barod, mae’n well dechrau gyda’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu.  

I gyflogwyr sy’n chwilio am gymorth neu gyngor ar recriwtio a phrentisiaethau, ewch i gov.uk, neu llyw.cymru i gyflogwyr yng Nghymru.  

A chofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Twitter, Instagram, a YouTube