Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth

Mae saer coed yn gweithio â phren i adeiladu drysau, ffenestri, dodrefn wedi'i ffitio a gosodiadau parhaol eraill mewn adeiladau. Yn aml byddant yn paratoi eitemau mewn gweithdy cyn mynd i'r safle i osod yr eitemau a gwblhawyd.

Mae seiri coed yn gweithio â llawer o fathau o bren a deunyddiau adeiladu eraill i greu amrywiaeth o waith mewnol ac allanol megis grisiau, ffenestri, drysau, dodrefn, ceginau, cypyrddau a gwaith coed mewnol. Gall seiri coed weithio ar brosiectau treftadaeth sydd angen sgiliau traddodiadol i warchod, trwsio neu ail-greu gwaith saer coed o'r gorffennol neu adfer adeiladau hanesyddol. Mae seiri coed yn defnyddio ystod o gyfarpar o offer traddodiadol megis llifiau, cynion, planau a driliau i gyfarpar torri cyfrifiadurol o'r radd flaenaf a meddalwedd llunio a dylunio uwch-dechnoleg. Mae eu sgiliau yn gymysgedd gwerthfawr o grefftwaith traddodiadol a modern.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer coed a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Gwybodaeth gyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr
  • Gallai cystadleuwyr Rownd Derfynol Genedlaethol Adeiladu Sgiliau’r DU symud ymlaen i gystadlaethau EuroSkills a WorldSkills os yw'r holl feini prawf perthnasol wedi'u bodloni

 

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Tynnu llun a gosod allan
  • Marcio ar bren a deunyddiau dalennog
  • Torri amrywiaeth o uniadau hyd at safon uchel o gywirdeb
  • Cydosod, gwirio ei fod yn sgwâr, datgymalu, ailosod a gludo
  • Cynllunio i sicrhau ffit gywir a chynnyrch gorffenedig o safon uchel
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080