Trosolwg o’r gystadleuaeth peintio ac addurno
Mae peintiwr ac addurnwr yn gweithio gyda phob ffabrig a phaent i gael gorffeniad o safon uchel, gan weithio y tu mewn a’r tu allan i eiddo.
Mae peintiwr ac addurnwr yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau peintio ac addurno sy’n amrywio o adnewyddu tai i godi adeiladau newydd, i waith cymhleth fel peintio pontydd, neu gynnal adeiladau hanesyddol. Mae peintiwr ac addurnwr yn gwneud waliau a nenfydau’n daclus ac yn ddeniadol, gan ddefnyddio amrywiaeth o systemau, papur wal a gorffeniadau eraill.
Mae’n un o’r crefftau adeiladu y mae’r galw mwyaf amdani, a bydd angen i chi feistroli amryw o dechnegau i wneud i lefydd edrych yn dda, gan hyfforddi mewn sgiliau newydd drwy gydol eich gyrfa. Mae technegau arbenigol yn cynnwys defnyddio gorffeniadau paent addurnol fel stensiliau, gwydro lliwiau, graeniad, marmori a llythrennau.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei dylunio i adlewyrchu rôl peintiwr ac addurnwr a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Trosolwg o’r gystadleuaeth
Bydd y cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:
- Y gallu i weithio ar sail goddefiant milimetrau
- Bydd y dyluniad yn cael ei farcio o ran cywirdeb, tywyllni, cynildeb ac ansawdd
- Bydd cystadleuwyr yn colli marciau am fesuriadau anghywir, a gorffeniad gwael
- Rhaid i gystadleuwyr weithio’n ddiogel a byddant yn colli marciau os na fyddant yn cadw at hyn
Gwybodaeth gyffredinol:
- Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
- Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg
Cymwyseddau craidd
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu:
- Gweithio o ddarluniau drwy gymryd mesuriadau cywir i bennu’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y darn cystadlu
- Gosod papur wal
- Arddangos sgiliau peintio rhagorol
- Gweithio hyd at oddefgarwch milimetrau
- Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus
- Gweithio mewn ffordd ddiogel
Gweler hefyd:
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith coed
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwneud dodrefn
- Trosolwg o’r gystadleuaeth saernïaeth
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro
- Trosolwg o’r gystadleuaeth plastro a systemau wal sych
- Trosolwg o’r gystadleuaeth llechi a theils to
- Trosolwg o’r gystadleuaeth gwaith maen
- Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau