An apprentice using machinery in a workshop

Os ydych chi o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol ac yn meddwl am brentisiaeth ym maes adeiladu, efallai eich bod yn meddwl tybed pa raglenni prentisiaeth sy’n cynnig y cyfleoedd gorau. Mae amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu yn fater sy’n cael sylw gan bob un o’r prif gwmnïau adeiladu, ac mae’r cynlluniau canlynol yn rhai gan sefydliadau sydd wedi dangos ymrwymiad i wella amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Prentisiaethau Taylor Wimpey

Fel un o adeiladwyr tai a datblygwyr preswyl mwyaf y DU, mae Taylor Wimpey yn cynnig prentisiaethau ar draws ei brif grefftau, sef gwaith coed, gosod brics, sgaffaldiau, toi, a phaentio ac addurno. Mae prentisiaid yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gyda thimau Cynhyrchu ar y safle, gyda chymorth mentor. Mae prentisiaethau’n cael eu cwblhau mewn 3-5 mlynedd, yn dibynnu ar y grefft a lefel y profiad.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl o leiafrifoedd ethnig a’r merched y mae’n eu cyflogi, ac mae wedi gosod nodau clir i helpu i gyflymu newid o fewn ei brosesau. Cyhoeddodd Taylor Wimpey ei Adroddiad Amrywiaeth cyntaf yn 2023, ac mae gan bob busnes rhanbarthol Taylor Wimpey hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a chynllun gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant.

 

Prentisiaethau Laing O’Rourke

Mae Laing O'Rourke yn gwmni peirianneg ac adeiladu rhyngwladol sy'n cyflawni prosiectau adeiladu a seilwaith o'r radd flaenaf i gleientiaid yn y DU ac ar draws y byd. Ymysg ei brosiectau cyfredol a diweddar mae’r stadiwm newydd ar gyfer Clwb Pêl-droed Everton, ac ysbyty Canolfan Ganser Clatterbridge, sydd hefyd yn Lerpwl. Mae Laing O’Rourke yn cynnig prentisiaethau proffesiynol, crefft a thechnegol, gan gyflenwi pobl dalentog â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr yrfa o’u dewis wrth weithio fel gweithiwr amser llawn. Mae rhaglenni prentisiaeth yn Laing O’Rourke yn amrywio o brentisiaethau gradd Lefel 2 a 3 i Lefel 6. Mae'r rhaglenni ar agor ar gyfer ceisiadau ym mis Rhagfyr (proffesiynol) a mis Chwefror (crefft/technegol) ym mhob blwyddyn academaidd.

 

Prentisiaethau Skanska

Grŵp Skanska yw un o gwmnïau adeiladu seilwaith mwyaf y DU, gyda dros 3,300 o weithwyr yn cyflawni prosiectau ym meysydd amddiffyn, addysg, priffyrdd, y rhwydwaith rheilffyrdd a chyflenwadau dŵr. Mae cynllun prentisiaeth Skanska yn rhoi cyfle i bobl ennill cymhwyster academaidd neu alwedigaethol cydnabyddedig wrth weithio ar sail llawnamser gyda’r cwmni. Mae Skanska yn cynnig prentisiaethau gradd ac uwch mewn Peirianneg Sifil, Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Mecanyddol a Thrydanol, Technoleg Ddigidol, Dadansoddi Data, Mesur Meintiau a Rheoli Adeiladu. Mae prentisiaethau Uwch a Chanolradd ar gael mewn gyrfaoedd fel Gosod Seilbyst, Weldio, Technegwyr Mecanyddol a Thrydanol, Technegwyr Cymorth TG a Gweinyddu Busnes.

 

Prentisiaethau Kier Group

Mae HS2, Cyswllt Twnnel y Sianel a Crossrail ymysg prosiectau Kier Group, arbenigwyr seilwaith, ac maen nhw’n cynnig cyfleoedd gwych i brentisiaid ddatblygu gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil. O beirianneg sifil i adnoddau dynol, iechyd a diogelwch i gynnal a chadw priffyrdd, mae Kier yn rhoi cyfle i brentisiaid ennill cyfoeth o brofiad mewn rôl gyflogedig.

Mae Kier wedi ymrwymo i amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu ac i sicrhau bod y sector adeiladu yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Mae ymgyrch Expect Respect y cwmni yn addysgu gweithwyr am iaith gynhwysol ac yn cyfleu agwedd dim goddefgarwch Kier at fwlio ac aflonyddu. Mae Kier wedi cyhoeddi map ffordd Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n dangos cerrig milltir y cwmni o ran Amrywiaeth a Chynhwysiant rhwng nawr a 2026.

 

Prentisiaethau Willmott Dixon

I unrhyw un o gefndir ethnig leiafrifol sy’n ystyried prentisiaeth adeiladu, mae Willmott Dixon wir yn sefyll allan o ran y ffordd maen nhw’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gan uwch reolwyr y cwmni adeiladu grwpiau llywio amrywiaeth i roi sylw i gydbwysedd rhwng y rhywiau ac i wella amrywiaeth yn Willmott Dixon a’r diwydiant ehangach. Ei nod yw sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar bob lefel yn y cwmni erbyn 2030. Mae Willmott Dixon yn cynnig prentisiaethau mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys cymorth busnes, gwaith coed, plymio, gosod brics, plastro, gwaith cynnal a chadw, a thoi.

 

Prentisiaethau Mace Group

Fel y bo’n addas i gwmni adeiladu sy’n darparu adeiladau beiddgar a radical, mae Mace wedi creu diwylliant yn y gweithle sy’n parchu cydraddoldeb, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn annog unigoliaeth. Mae Mace yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang Stonewall ac mae wedi codi ymwybyddiaeth o fanteision cael gweithlu lle mae cydbwysedd rhwng y rhywiau. Mae wedi mynd i’r afael â rhwystrau sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol, amrywiaeth ethnig, anabledd, ac LHDTC+. Mae’r cwmni’n rhedeg nifer o rwydweithiau sy’n cynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth ac addysg, fel Women at Mace, Pride at Mace, Ethnic Diversity and Inclusion, ac mae’n falch o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae rhaglen prentisiaethau Mace yn rhoi cyfle i brentisiaid ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol wrth gael cymorth yn eu taith ddysgu, ac ennill cyflog cystadleuol.

Dechreuwch eich gyrfa ym maes adeiladu heddiw

Yn Am Adeiladu mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am brentisiaethau adeiladu, a gallwch ddod o hyd i’r prentisiaethau adeiladu diweddaraf ar Talentview.