Yr Un Da Mewn Tîm

Yr Un Da Mewn Tîm

Rydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd

Mae angen help llaw ar bawb o bryd i’w gilydd a’r rhai sy’n dda mewn tîm yw’r union bobl i gynnig y gefnogaeth honno.

Does dim un broblem yn rhy fawr na’n rhy fach. Os oes angen gwresogi tŷ, byddan nhw'n rhoi trefn ar hynny. Os oes angen trydan ar nendwr, maen nhw’n barod amdani. Mae’r rhai sy’n dda mewn tîm yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth diogel a rhagorol er budd y rhai o’u cwmpas.


Yn aml, mae rhai sy’n dda mewn tîm yn:

  • Gweithio mewn gwahanol amgylcheddau
  • Cymwynasgar ac yn benderfynol
  • Teithio o gwmpas i orffen y gwaith
  • Meddu ar sgiliau arbenigol
  • Dilyn gweithdrefnau diogelwch llym
  • Cymryd perchenogaeth dros dasg er budd pobl eraill

Dywedwch wrth eich ffrindiau eich bod yn Un Da Mewn Tîm

Llwythwch y bathodyn i lawr a’i rannu:

 


Does dim ots pa mor wych yw eich meddwl neu eich strategaeth, os ydych chi’n chwarae gêm ar eich pen eich hun, byddwch chi bob amser yn colli yn erbyn tîm.”

- Reid Hoffman

Roles